Lleoliad:Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 30 Mehefin 2022
Amser:
09.30 -
14.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13084
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
|
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Emma Watkins, Llywodraeth Cymru Sharon Bounds, Llywodraeth Cymru Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Neil Surman, Llywodraeth Cymru Sue Hurrell, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru Simon Hart MP, Swyddfa Cymru Y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru |
|
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Avalon Broadway (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Papur i’w Nodi 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch yr amserlen ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 - 20 Mehefin 2022
2.2 Papur i’w Nodi 2 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 27 Mehefin 2022
3 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaeth Ariannol; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllideb a Busnes y Llywodraeth ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.
3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y canlynol:
· Gofyn i'r Gweinidog Addysg roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am gost uned wirioneddol darparu prydau ysgol am ddim.
· Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybodaeth i’r Pwyllgor am y cyllid a ddyrannwyd i adferiad y GIG sy’n mynd i’r afael â phwysau ar y gweithlu, ac effaith y cyllid a ddyrannwyd ar leihau amseroedd aros y GIG.
· Ysgrifennu at y Pwyllgor ar y cysyniad 'dim niwed' mewn perthynas ag adleoli swyddi'r gwasanaeth sifil i Gymru.
· Gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am 'Llywodraeth Cymru 2025', mewn perthynas â swyddi yn y gwasanaeth sifil.
· Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am gapasiti Llywodraeth Cymru yn ei Gwasanaethau Cyfreithiol, mewn perthynas â rheoli'r nifer fawr o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 7 a 9 y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2022.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
Egwyl dechnegol (10.45 - 11.00)
6 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): Sesiwn dystiolaeth
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol; Jo Salway, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg; Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr, Partneriaeth Gymdeithasol; a Sue Hurrell, Pennaeth Caffael Gwaith Teg ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
6.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog ar y canlynol:
· Rhoi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am yr enghreifftiau y cyfeiriwyd atynt yn ystod y sesiwn, yn ymwneud ag effaith dyletswydd caffael cyhoeddus ar fentrau caffael lleol Llywodraeth Cymru.
· Rhoi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am yr amrywiaeth o ddeunyddiau i gefnogi a helpu awdurdodau contractio, a dadansoddiad o’r hyn y byddai’r canllawiau a’r cymorth yn eu cynnwys.
· Hysbysu’r Pwyllgor pan fydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyhoeddi’r ymgynghoriad ynghylch yr adolygiad o Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a chyrff eraill.
7 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
Egwyl (12.10-13.00)
8 Trefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE: Sesiwn dystiolaeth 4
8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; a David Davies AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru ar yr ymchwiliad i drefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE.
8.2 Cytunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru i ddarparu’r canlynol i’r Pwyllgor:
· Y ddogfen y cyfeiriwyd ati yn ystod y cyfarfod yn cynnwys gwybodaeth am lefel y cyllid a ddyrannwyd gan Lywodraeth y DU.
· Ffigurau’n ymwneud â chyllid amaethyddol.
· Y graff dosbarthiad fesul awdurdod lleol.
· Gwybodaeth mewn perthynas â chyllid ar ôl y rhaglen Horizon yng Nghymru.
· Eglurhad mewn perthynas â thanwariant y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
9 Trefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE: Trafod y dystiolaeth
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.